Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13685


187

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Dechreuodd yr eitem am 14.29

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4, 5 a 6 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.21

Gofynnwyd y ddau gwestiwn.

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.27

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn perthynas â Fferm Gilestone yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2024?

Atebwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o ran y cytundeb i adfer llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon?

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - Wythnos Lleoliadau Annibynnol (29 Ionawr i 4 Chwefror). 

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Dechreuodd yr eitem am 15.58

NDM8466 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Senedd Gyfan.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi

Dechreuodd yr eitem am 15.58

NDM8472 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG

Dechreuodd yr eitem am 15.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8434 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;

b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac

c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

22

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl ar ddeiseb P-06-1359 a deiseb P-06-1362 ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM8467 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant:

a) deiseb ‘P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr’ a gasglodd 10,820 o lofnodion; a

b) deiseb 'P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024'  a gasglodd 407 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI10>

<AI11>

10    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23 - Gohiriwyd

Gohiriwyd yr eitem hon

</AI11>

<AI12>

11    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol - Ail-drefnwyd o 24 Ionawr 2024

Dechreuodd yr eitem am 17.11

NDM8458 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2023.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI12>

<AI13>

12    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes

Dechreuodd yr eitem am 17.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8469 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn torri’r gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-2025.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden er mwyn cefnogi busnesau a diogelu swyddi.

Cefnogwyr

Joel James (Canol De Cymru)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021:

a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn;

b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac

c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8469 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021:

a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn;

b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac

c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

0

43

50

Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI13>

<AI14>

13    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Darlledu rygbi'r Chwe Gwlad

Dechreuodd yr eitem am 18.25

NDM8470 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y sylwadau a wnaed gan Syr John Whittingdale AS, Gweinidog Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y byddai Llywodraeth y DU yn edrych eto ar y digwyddiadau a rhestrir pe bai Senedd Cymru yn dadlau’n gryf iawn o blaid hynny.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau rygbi’r chwe gwlad yn y categori am ddim at ddibenion darlledu.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI14>

<AI15>

14    Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.56

</AI15>

<AI16>

</AI16>

<AI17>

15    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 19.01

NDM8468 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Methiant y galon – Mae arloesi yn achub bywydau

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.19

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>